ADY – digwyddiad rhanbarthol 2019 // ALN – regional event 2019

Registrations are closed

Cofrestru ar-lein bellach wedi cau // Online registration has now closed

ADY – digwyddiad rhanbarthol 2019 // ALN – regional event 2019

By Welsh Government

Date and time

Tue, 12 Feb 2019 09:00 - Thu, 21 Feb 2019 16:30 CET

Location

Lleoliadau amrywiol // Various locations

United Kingdom

Description

Pwysig:

Diolch am eich diddordeb i fynychu digwyddiadau ymgynghori Anghenion Dysgu Ychwanegol 2019.

Os yw’ch lleoliad a ffefrir ddim ar gael, anfonwch eich enw, sefydliad, rôl a sesiwn a ffefrir i SENreforms@gov.wales i ychwanegu eich enw i’r rhestr ac mi fyddwn yn rhoi gwybod i chi.


Important:

Thank you for your interest in attending the Additional Learning Needs (ALN) Code Consultation events 2019.

If your preferred location is sold out, please send your name, organisation, role and preferred session to SENreforms@gov.wales to be added to a reserve list and we will notify you should a space become available.

=========================================

[Cymraeg]

Digwyddiad rhanbarthol: Y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) drafft

Ar 10 Rhagfyr 2018 lansiodd y Gweinidog Addysg ymgynghoriad drafft ynghylch y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (“y Cod”) a'r is-ddeddfwriaeth arfaethedig o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).

Diben y digwyddiadau ymgynghori hyn yw cysylltu’n uniongyrchol â phawb sydd â buddiant yn y ffordd y caiff y system ADY newydd ei rhoi ar waith, a sicrhau bod hawliau a dyletswyddau’r partneriaid cyflenwi wedi’u deall yn glir.

Yn y digwyddiad cewch gyfle i rannu’ch barn ar gynnwys y Cod drafft a'r rheoliadau arfaethedig. Bydd pob sylw a barn a ddaw i law yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru a’i ddefnyddio i helpu i fireinio a siapio’r Cod a’r rheoliadau terfynol.

Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle RHAD AC AM DDIM mewn digwyddiad yn agos atoch chi.

Pwy ddylai fod yn bresennol?

Athrawon, penaethiaid, llywodraethwyr, cydlynwyr anghenion addysgol arbennig / anghenion dysgu ychwanegol, seicolegwyr addysg, swyddogion awdurdodau lleol, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd proffesiynol, ymarferwyr o'r blynyddoedd cynnar ac addysg uwch, undebau athrawon, arolygwyr, sefydliadau trydydd sector, rhieni ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn y system ADY newydd.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ynghylch y Cod drafft a'r rheoliadau arfaethedig o dan y Ddeddf, ewch i https://beta.llyw.cymru/cod-anghenion-dysgu-ychwanegol-drafft

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen trawsnewid ADY, ewch i www.llyw.cymru/ady

Os oes gennych gwestiynau, anfonwch abost at senreforms@llyw.cymru


Lleoliadau a dyddiadau

Casnewydd: 12 Chwefror 08:30-12.00 (sessiwn bore) a 13:00-16:30 (sessiwn prynhawn)

– Canolfan Christchurch, Canolfan Bt Ffordd Malpas, Casnewydd NP20 5PP

Llanelli: 13 Chwefror 08:30-12.00 (sessiwn bore) a 13:00-16:30 (sessiwn prynhawn)

– Parc y Scarlets, Maes-Ar-Ddafen Road, Llanelli SA14 9UZ

Caerdydd: 19 Chwefror 08:30-12.00 (sessiwn bore) a 13:00-16:30 (sessiwn prynhawn)

– Gerddi Soffia, Clôs Soffia, Caerdydd CH11 9XR

Llandudno: 21 Chwefror 08:30-12.00 (sessiwn bore) a 13:00-16:30 (sessiwn prynhawn)

– Venue Cymru, Gwynedd Road, Llandudno, LL30 1BB


Themâu agenda a gweithdai

Lawrlwythwch fersiwn PDF




[English]

Regional event: the draft Additional Learning Needs (ALN) Code

On 10 December 2018 the Minister for Education launched a public consultation on the draft Additional Learning Needs Code (“the Code”) and proposed subordinate legislation under the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (“the Act”).

The purpose of these consultation events is to directly engage with all those with an interest in the delivery of the new ALN system and to ensure that the rights and duties of delivery partners are clearly understood.

At the event you will get to share your views on the content of the draft Code and proposed regulations. All views and comments received will be considered by the Welsh Government and used to help refine and shape the final Code and regulations.

Register now to secure your FREE place at an event near you.

Who should attend?

Teachers, head teachers, governors, SENCos/ ALNCos, educational psychologists, local authority officers, social workers, health professionals, early years and further education practitioners, education unions, inspectors, third sector organisations, parents and anyone else with an interest in the new ALN system.

For more information relating to the consultation on the draft Code and proposed regulations under the Act please visit beta.gov.wales/additional-learning-needs-transformation-programme

For more information about the ALN transformation programme visit www.gov.wales/aln

For any questions please email senreforms@gov.wales


Locations and dates

Newport: 12 February 08:30-12:00 (morning session) and 13:00-16:30 (afternoon session)

- Christchurch Centre, B T Compound, Malpas Road, Newport NP20 5PP

Llanelli: 13 February 08:30-12:00 (morning session) and 13:00-16:30 (afternoon session)

- Parc Y Scarlets, Maes-Ar-Ddafen Road, Llanelli SA14 9UZ

Cardiff: 19 February 08:30-12:00 (morning session) and 13:00-16:30 (afternoon session)

- Sophia Gardens, Sophia Close, Cardiff CF11 9XR

Llandudno: 21 February 08:30-12:00 (morning session) and 13:00-16:30 (afternoon session)

- Venue Cymru, Gwynedd Road, Llandudno LL30 1BB


Agenda and workshop theme options

Download PDF version


Organised by

Sales Ended